Mae’r ystâd wedi’i gosod mewn ardal gwledig deniadol ar ffiniau Torfaen a Sir Fynwy, ger ffordd ddeuol yr A4042, hanner ffordd rhwng Casnewydd a’r Fenni.
Beth bynnag yw eich gofynion, o ystafell sengl i lawr unigol, uned fawr neu fwy, beth am wneud Ystâd Parc Mamhilad yn gartref i’ch busnes? Gallwch gymryd un swyddfa sengl o dan ein cynllun pecyn rhent hyblyg. Rydym yn cynnig hyblygrwydd heb ei ail a chymorth i helpu gydag unrhyw newidiadau a thwf wrth i’ch busnes ddatblygu. Un o’r prif fanteision yw ein bod yn gweithio ar y safle ac yn gallu helpu gyda’ch anghenion ac ymdrin ag unrhyw ymholiadau sydd gennych er mwyn cefnogi’ch busnes yn ôl yr angen.
Yr hyn a gynigiwn:
Ystod eang o swyddfeydd modern, wedi’u hailwampio a rhai y gellir eu haddasu – mae’r swyddfeydd wedi’u hadnewyddu a’u moderneiddio i safon uchel gyda lliwiau llachar a bywiog, sy’n eu gwneud yn lle croesawgar a chyfforddus i weithio a chwrdd ag eraill.
Ystod eang o fannau diwydiannol a mannau warws – mae amrywiaeth o opsiynau gofod diwydiannol a warws ar gael yn Ystâd Parc Mamhilad
Digonedd o le i barcio am ddim –Mae gan ystâd y Parc nifer o lefydd parcio ceir ar y safle yn ogystal â maes parcio mawr i ymwelwyr.
Lleoliad rhagorol –Mae Ystâd Parc Mamhilad wedi’i leoli mewn ardal gwledig hyfryd ar ffiniau Torfaen a Sir Fynwy, yn Mamhilad ger Pontypŵl. Mae’r cysylltiadau heolydd yn arbennig o dda gan fod yr ystâd wrth ymyl ffordd ddeuol yr A4042, hanner ffordd rhwng Casnewydd a’r Fenni gyda chysylltiadau â’r M4 a M50 a M5.
Costau rhent fforddiadwy – Mae ein costau rhent yn gystadleuol iawn – un peth yn llai i chi boeni amdano wrth redeg eich busnes.
Trefniadau meddiant hynod hyblyg – yn yr hinsawdd fusnes ddeinamig a newidiol hon, mae hyblygrwydd yn bwysig. Ar Ystâd Parc Mamhilad mae gennym amrywiaeth o drefniadau meddiant i weddu eich anghenion busnes.
Mynediad 24/7 – Rydym yn gwybod ei bod yn bwysig cael mynediad i’ch swyddfa neu weithle ar unrhyw adeg a ddymunwch.
Trefniadau diogelwch. Wedi’u staffio am 24 awr gyda theledu cylch cyfyng- mae gan yr ystâd borthdy diogelwch gyda rhwystr a system mynediad ffob.
Cysylltiad â’r rhyngrwyd trwy ffibr cyflymder uchel (cost ychwanegol) – gallwch benderfynwch ar gyflymder eich cysylltiad yn dechrau ar 5Mbit/s + @ £25 + TAW/mis i 50Mbit/s @ £250 + TAW/mis. Mae cyflymderau cyflymach ar gael ar gais.
Argaeledd VOIP – p’un ai ydych yn chwilio am wasanaethau llais, fel llinellau a galwadau, systemau ffôn neu becynnau ffonau symudol busnes, mae Datakom yn gallu darparu eich holl anghenion telathrebu mewn un lle.
Hunan-storio
Mae gan Barc Mamhilad storfeydd hunan-storio yn cynnig 8 troedfedd x 20 troedfedd wedi eu prisio’n gystadleuol iawn mewn cyfleuster dan do o fewn gofod un o’n ffatrioedd .
Storio carafán
Mae gan yr ystâd ddau gyfleuster ar gyfer storio carafannau, ac mae’r ddau am bris cystadleuol iawn.
Caffi ar y Parc
Un o brif fanteision Ystâd Parc Mamhilad yw’r caffi ar y safle ar gyfer brecwast a chinio, gydag amrywiaeth eang o brydau a byrbrydau poeth ac oer o ansawdd uchel.
Campfa
Un fantais o weithio yn Ystâd Parc Mamhilad yw bod campfa weithredol ar y safle. Gallwch ddod a’ch nodau busnes a ffitrwydd ynghyd gan taw Crossfit Shadow Valley yw un o’r uwch gyfleusterau CrossFit yn Nhorfaen.
Meithrinfa
Rhywbeth at ddant rhieni neu warcheidwaid plant ifanc sy’n gweithio yn Mamhilad Stad y Parc yw meithrinfa hyfryd Little Stars, sy’n eich galluogi chi i fynd i’r gwaith yn hapus gan wybod bod eich plant gerllaw, yma ar y safle.